Disgrifiad
Hen fowldiau pren a ddefnyddiwyd yn India i wneud brics yn y dull traddodiadol trwy ei siapo yn y pren, ei sychu yn yr haul cyn ei rhoi yn yr odyn neu’r cilyn
Mae pob un bocs yn wahanol i’r un nesaf, hollol unigryw a pob un efo’i gymeriad .
Mae nhw’n gwneud bocsus perffaith i storio bob math o bethau, colur neu sebonau ayb yn y ‘stafell molchi, gemwaith, pensiliau, deunydd arlunio ayb neu gallwch ei gosod ar wal, yn sengl neu mewn patrwm ar ben ei gilydd neu mewn rhes, i greu silff unigryw a defnyddiol- a del!
Bocsus dwbwl ar gael hefyd
Mae rhain yn eitemau trymion. Os ydych am brynu mwy nac un, efallai y byddwn yn cysylltu a chi i ail osod y costau postio, neu drefnu cludiant gwahanol**
Ni wnawn yrru dim heb gysylltu o flaen llaw