Disgrifiad
Dau fag mewn un! Mor handi! Lliw eog hyfryd a ffwr ffug patrwm bach sebra ar yr un ochor, trowch y fflap drosodd i’r ochor arall, ac mae ganddoch chi fag lliw coch cyfoethog ‘r glas mwya godidog. Mae y tu mewn wedi’i leinio a digonedd o le ynddo fo i bopeth ‘da chi angen ar gyfer noson, neu ddiwrnod allan, priodas neu achlysur arbennig. Mae yn dod gyda strap lledr y gellid ei gysylltu i’w wisgo ar draws y coerff neu ar ysgwydd
Ffasiwn cynnaladwy
Lledr wedi’i ail-ddefnyddio
Ffwr ffug wedi’i brintio