Amdanom
Sefydlwyd Medi yn 2006 mewn hen adeilad rhestredig Gradd II yn nhref hynafol Dolgellau, ar droed y Gader.
Roedd y perchennog, Nia Medi, yn wyneb cyfarwydd ar deledu a llwyfan am bron i ddeng mlynedd ar hugain cyn cychwyn y busnes. Bu hefyd yn cynllunio a chyflwyno ar raglen ‘Real Rooms’ ac mae hi’n parhau i adnewyddu tai a dodrefn i gwsmeriaid hyd heddiw.
Medi oedd y siop gyntaf i arbenigo mewn nwyddau chwaethus wedi gwneud yng Nghymru gan wneuthurwyr a chrefftwyr Cymraeg. Mae Nia wedi hyrwyddo a chefnogi cynllunwyr ifanc o ddechrau eu gyrfaoedd ac wedi eu gweld yn mynd o nerth i nerth. Mae hi’n dal i roi llwyfan i wneuthurwyr newydd hyd heddiw.
Erbyn hyn mae Nia yn gyflenwraig paent sialc Annie Sloan Chalk Paint™ ac mae ei chreadigaethau trawiadol i’w canfod led led Prydain a dros y dŵr…