Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Medi yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i Medi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon. Mae Medi wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.  Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir ei defnyddio i’ch adnabod tra ydych yn defnyddio’r wefan hon, yna gallwch fod yn sicr mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y bydd yn cael ei defnyddio. Gall Medi newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech ddarllen y dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.

Pryd ydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch a beth rydym yn ei gasglu

Rydym yn casglu ac yn prosesu data personol pan fyddwch yn:

  • creu cyfrif gyda ni.
  • ymweld â’n gwefan, ac yn defnyddio eich cyfrif i brynu nwyddau neu ddefnyddio talebau ar y ffôn, yn y siop neu ar-lein.
  • prynu ar-lein ac yn talu fel gwestai (ac yn yr achos hwn dim ond data’r taliad rydym yn ei gasglu).
  • gwneud archeb yn y siop neu dros y ffôn ond nad oes gennych gyfrif (neu pan nad ydych yn ei ddefnyddio).
  • ymwneud â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • cysylltu â ni mewn unrhyw ddull i wneud ymholiad, cwyn ac ati.
  • cystadlu mewn cystadlaethau.

Mae’r math o ddata yr ydym yn ei gasglu yn cynnwys:

  • eich enw, eich cyfeiriad(au) bilio/cludo, archebion ac anfonebau, e-bost a rhif ffôn.
  • manylion unrhyw gwynion neu sylwadau a wnaethoch drwy e-bost, trwy’r ddesg gymorth ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol
  • hanes eich archebion a dewisiadau eich rhestr dymuniad, os oes gennych gyfrif gyda ni
  • gwybodaeth a gasglwyd trwy ddefnyddio cwcis yn eich porwr gwe. I gael rhagor o fanylion gweler yr adran Diogelwch a Chwcis.
  • gwybodaeth dechnegol am eich cysylltiad rhyngrwyd a’ch porwr, y math o ddyfais rydych yn ei defnyddio a’ch dewis iaith

Pryd bynnag yr ydym yn casglu neu yn prosesu eich data personol, dim ond cyhyd ag y mae ei angen ar gyfer y diben y’i casglwyd y byddwn yn ei gadw.

Nid ydym yn gwerthu unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd partïon. Dydyn ni byth wedi, a fyddwn ni byth yn gwneud. Fodd bynnag rydym yn rhannu eich data gyda chwmnïau megis cwmnïau cludiant a darparwyr gwasanaeth talu er mwyn i ni fedru darparu ein gwasanaethau i chi. 

Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol

Rydym eisiau rhoi’r profiad cwsmer gorau posibl i chi.

Mae cyfraith preifatrwydd data yn caniatáu hyn fel rhan o’n ddiddordeb dilys ni mewn deall ein cwsmeriaid a darparu’r lefelau gorau o wasanaeth.

Gallwch ofyn am ddileu eich data ond os byddwch yn dewis peidio â rhannu eich data personol gyda ni, neu yn gwrthod rhai hawliau cysylltu, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt.

Dyma sut rydym yn defnyddio eich data personol a pham:

  • I brosesu unrhyw archebion a wnewch ar ein gwefan, dros y ffôn neu yn y siop. Os nad ydym yn casglu eich data personol pan fyddwch yn talu, ni fyddwn yn gallu prosesu eich archeb.
  • Efallai y bydd angen trosglwyddo eich data i drydydd parti i gyflenwi neu ddanfon y nwydd yr ydych wedi ei archebu, a gallwn gadw’r manylion am gyfnod rhesymol wedyn i sicrhau bod yr archeb yn cael ei chwblhau ac i wneud ad-daliadau pe bai angen.
  • I ymateb i’ch ymholiadau, i geisiadau am ad-daliad ac i gwynion. Gallwn gadw cofnod o’r rhain at ddibenion cadw cofnodion mewnol ac i wneud gwelliannau i’n gwasanaethau.
  • I ddiogelu ein busnes a’ch cyfrif rhag twyll a gweithgareddau anghyfreithlon eraill. Mae hyn yn cynnwys defnyddio eich data personol i gynnal, diweddaru a diogelu eich cyfrif. Byddwn hefyd yn monitro eich gweithgarwch pori gyda ni i nodi a datrys unrhyw broblemau a diogelu uniondeb ein gwefan yn gyflym. Byddwn yn gwneud hyn i gyd fel rhan o’n diddordeb dilys e.e. drwy wirio eich cyfrinair pan fyddwch yn mewngofnodi a thrwy ddefnyddio dull awtomatig o fonitro cyfeiriadau IP i nodi mewngofnodion twyllodrus posibl o leoliadau annisgwyl.
  • I brosesu taliadau ac atal taliadau twyllodrus.
  • Gyda’ch caniatâd chi, i roi gwybod i chi drwy e-bost am nwyddau a gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys cynigion arbennig, gostyngiadau, digwyddiadau, cystadlaethau ac ati. 
    Mae croeso i chi derfynu eich tanysgrifiad i’n cylchlythyr ar unrhyw adeg. Gellir gwneud hyn drwy fewngofnodi i’ch cyfrif a diweddaru eich dewisiadau neu trwy ddefnyddio’r ddolen ‘dad-danysgrifio’ ar waelod unrhyw e-bost hyrwyddo a anfonwyd gan Medi.
  • I weinyddu unrhyw wobrau neu gystadlaethau yr ydych wedi cystadlu ynddynt.

Diogelwch a Chwcis

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgelu dim amdanoch heb ganiatâd, rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu ac i sicrhau’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.

Rydym yn defnyddio Sage Pay i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel ac yn anhygyrch i ddefnyddwyr eraill y rhyngrwyd. Mae systemau Sage Pay yn cael eu sganio gan Trustwave, Asesydd Diogelwch Cymwysedig annibynnol ar gyfer brandiau cardiau talu.

Mae Sage Pay hefyd yn cael ei archwilio’n flynyddol gan Safonau Diogelwch Data’r Diwydiant Cardiau Talu (PCI DSS).

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Ffeil fach yw cwci sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith y byddwch yn cytuno, ychwanegir y ffeil a bydd y cwci yn helpu i ddadansoddi traffig ar y we neu’n eich galluogi i wybod pan fyddwch chi’n ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen we deilwra’i gweithrediadau i’ch anghenion, i’r hyn yr ydych yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi trwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i nodi pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig ar ein tudalennau gwe ac i wella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon ac yna caiff y data ei dynnu o’r system.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein cynorthwyo i gynnig gwefan well i chi, trwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydych chi’n eu hoffi. Nid yw cwci mewn unrhyw ffordd yn rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur nac at unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data rydych chi’n dewis ei rannu gyda ni. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os yw’n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Rheoli eich manylion personol

Efallai y byddwch yn dewis cyfyngu ar sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu a’i defnyddio yn y ffyrdd canlynol:

  • pryd bynnag y gofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, edrychwch am y blwch y gallwch ei glicio i nodi nad ydych am i’r wybodaeth gael ei defnyddio gan unrhyw un at ddibenion marchnata uniongyrchol
  • os ydych eisoes wedi cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, fe allwch chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu neu anfon e-bost atom i post@medi-gifts.com

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai bod gennym eich caniatâd chi i wneud hynny neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.  Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch am drydydd parti y byddai gennych chi ddiddordeb ynddynt, yn ein barn ni, os ydych chi’n dweud wrthym eich bod yn dymuno i hyn ddigwydd.

Gallwch ofyn am fanylion y wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch, ysgrifennwch at Medi, 2-3 Heol y Bont, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1AU.

Os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennym ni amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu anfonwch e-bost atom cyn gynted ag y bo modd, yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth y gwelir ei bod yn anghywir yn brydlon.

Rhestr o’r cwcis a gasglwn

Mae’r tabl isod yn rhestru’r cwcis a gasglwn a pha wybodaeth y maent yn eu storio.

ENW’r cwciDISGRIFIAD o’r cwci
CARTY berthynas â’ch bag siopa.
CATEGORY_INFOStorio gwybodaeth am gategori’r dudalen, sy’n caniatáu, i ni ddangos tudalennau’n gyflymach.
COMPAREYr eitemau sydd gennych yn eich Rhestr Cymharu.
CURRENCYEich arian cyfred dewisol.
CUSTOMERFersiwn amgryptiedig o’ch manylion cwsmer gyda’r siop.
CUSTOMER_AUTHDangosydd sy’n dweud a ydych wedi mewngofnodi i’r siop ar hyn o bryd.
CUSTOMER_INFOFersiwn amgryptiedig o’r grŵp cwsmeriaid yr ydych yn perthyn iddo.
CUSTOMER_SEGMENT_IDSStorio ID Segment Cwsmer.
EXTERNAL_NO_CACHEBaner, sy’n nodi a yw storio data wedi ei analluogi ai peidio.
FRONTENDID eich sesiwn ID ar y gweinydd.
GUEST-VIEWMae’n caniatáu i westeion olygu eu harchebion.
LAST_CATEGORYY categori olaf i chi ymweld ag o.
LAST_PRODUCTYr eitem ddiwethaf i chi edrych arni.
NEWMESSAGENodi a dderbyniwyd neges newydd.
NO_CACHEDangos a oes caniatâd i storio data.
PERSISTENT_SHOPPING_CARTDolen at wybodaeth am eich bag a’ch hanes gwylio os ydych wedi gofyn i’r wefan.
POLLID o unrhyw arolygon yr ydych wedi pleidleisio ynddynt yn ddiweddar. 
POLLNGwybodaeth am ba bleidleisiau yr ydych wedi pleidleisio ynddynt.
RECENTLYCOMPAREDYr eitemau yr ydych wedi’u cymharu yn ddiweddar.
STFGwybodaeth am y nwyddau yr ydych chi wedi’u e-bostio at ffrindiau.
STOREGwedd siop neu’r iaith a ddewiswyd gennych.
USER_ALLOWED_SAVE_COOKIENodi os yw cwsmer yn caniatáu defnyddio cwcis.
VIEWED_PRODUCT_IDSYr eitemau yr ydych wedi edrych arnynt yn ddiweddar.
WISHLISTRhestr amgryptiedig o’r nwyddau a ychwanegwyd at eich Rhestr Dymuniad.
WISHLIST_CNTNifer yr eitemau yn eich Rhestr Dymuniad.