Oriel
Croeso i Oriel Medi. Dyma enghreifftiau o’n gwaith.
Cysylltwch os hoffech ein comisiynu i weddnewid hen ddodrefnyn trist yr olwg sydd ganddoch acw, neu gallwn ddod o hyd i gelficyn sy’n siwtio. Rydym hefyd yn derbyn comisiynau i drawsnewid ystafelloedd neu hyd yn oed dai cyfan.
Rhowch alwad neu gyrrwch neges: 01341 421755 neu post@medi-gifts.com
Ffenest Nadolig 2021
Annie Sloan Amsterdam Green with stencilling.
Llythrennau Pren Wedi’u Paentio
Paent Sialc Annie Sloan® Aubusson Blue gyda Chwyr Euro Aur Llachar ar yr ymylon
Llythrennau Pren Wedi’u Paentio
Paent Sialc Annie Sloan® Aubusson Blue gyda Chwyr Euro Aur Llachar ar yr ymylon
Llythrennau Pren Cyn Eu Paentio
Comisiwn i weddnewid lythrennau trilliw gwyrdd, coch a gwyn i Baent Sialc Annie Sloan®
Gweddnewidiad Cwpwrdd Pîn
Ailosod bwlynau, ychwanegu coesau a’i baentio mewn i Baent Sialc Annie Sloan® French Linen efo isliw Original
Gweddnewidiad Cwpwrdd Ochr Gwely
O frown diflas i hyfrydwch modern gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Graphite a Chwyr Euro Arian Llachar i’r manylion
Cist Ddroriau Dderw
Hen gist ddroriau wedi ei phaentio gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Firle dros Amserstam Green. Addurniwyd yr ochrau gyda decoupage gan ddefnyddio serviettes blodeuog fintej
Trawsnewidiad Retro Bendigedig
Hollol gyfredol! Cwprdd mewn Paent Sialc Annie Sloan® English Yellow wedi’i ddiogelu efo Lacr Mat
Hyfrydwch Retro
Trawsnewidiad llwyddiannus i gwsmer hapus. (Ro’n i’n drist i weld hwn yn mynd!) Paent Sialc Annie Sloan® English Yellow gyda Lacr Mat
Ffenest Nadolig 2019
Ffenest gofiadwy a thrawiadol. Hen gwpwrdd gwyn wedi ei drawsnewid i ddesg drawiadol gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Oxford Navy, Burgundy a Chwyr Euro Aur Llachar ac wedi’i ei orffen gyda stensil Morocaidd
Darn Nadoligaidd 2019
Paent Sialc Annie Sloan® Oxford Navy, Burgundy Panel, Cwyr Euro Aur Llachar, stensil a manylion
Darn Nadoligaidd 2019 Cyn Ei Baentio
Cafodd yr hen ddarn hyfryd yma fywyd newydd a daeth yn ganolbwynt ein ffenest Nadolig
Trawsnewid Cwpwrdd Cornel Pin
O bin i binc efo Paent Sialc Annie Sloan® Antoinette a Chwyr Tywyll yn y manylion
Ynys Cegin
Yn rhoi gwefr newydd i gegin derw hen ond o safon gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Versailles
Cwpwrdd Ffrengig Ar Ôl Ei Baentio
Gwedd newydd gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Chicago Grey a manylion Coco
Cwpwrdd Ffrengig Cyn Ei Baentio
Dodrefnyn trwm iawn, wedi ei gludo o farchnad yn Ffrainc! Mae ei wyneb o farmor pinc
Ffenest Nadolig 2018
Ffenest Nadolig drawiadol arall. Gwaelod dresel mewn Paent Annie Sloan® gyda Chwyr Euro Aur Llachar ar y manylion ac ar y bwlynnau sgarab
Darn Nadoligaidd 2018
Paent Sialc Annie Sloan® Burgundy gyda manylion Aur Llachar ac ar y bwlynnau sgarab
Agoslun o Stôl Wedi Ei Phaentio A’i Hailglustogi
Wedi ei hachub o sied adfywiwyd hon gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Paris Grey a defnydd o Cae Du Designs, Harlech
Bwrdd Coffi
Comisiwn. Bocs Pin sylweddol (o’r un sied!) bellach yn fwrdd coffi mewn lolfa foethus. Paent Sialc Annie Sloan® Old White gyda gwaith haearn mewn Paris Grey
Cadair Ystafell Molchi Ar Ôl Ei Phaentio
Comisiwn. Hen gadair deuluol wedi ei thrawsnewid gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Emile
Agoslun Cadair Ystafell Ymolchi
Paent Sialc Annie Sloan® Emile gyda chwyr gwyn yn y cerfiadau patrymog ac wedi ei sandio’n ysgafn i’w heneiddio
Cadair Ystafell Wely
Trawsnewidiad gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Arles a stensilio. Gwaith brwsh ar y breichiau a’r coesau yn cwblhau’r wedd
Agoslun Cadair Ystafell Wely
Wedi ei sandio’n ysgafn cyn rhoi Cwyr Tywyll Annie Sloan i’w heneiddio ac ychydig o waith paentio â llaw yma ag acw
Cadair Ystafell Wely Cyn Ei Phaentio
Comisiwn. Darn teuluol hyfryd arall oedd angen ei thrawsnewid i siwtio lliwiau newydd yn y llofft. Paent Sialc Annie Sloan® Arles a stensil
Cadair Ystafell Ymolchi Cyn Ei Phaentio
Hen gadair â hanes teuluol wedi ei thrawsnewid gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Emile a Chwyr Gwyn ar y cerfiadau
Bywyd Newydd i Hen Gadair
Hen gadair wedi ei llwyr gweddnewid, wedi ei sandio nol i’r pren golau gyda sbrings a chlustog newydd, a defnydd gwlân hyfryd o Cae Du Designs, Harlech yn goron ar y cyfan
Comisiwn Mewnol
Hen gadair wedi ei sandio at y pren golau, sbrings a chlystogau newydd a defnydd o Cae Du Designs, Harlech
Cadair Plentyn
Mae Paent Sialc Annie Sloan® Barcelona yn gweddu’n berffaith gydag oren y llwynog ar y defnydd yma ar gyfer cadair plentyn
Cadair Plentyn
Y gwaith pren yn cael ei baentio gyda Phaen Sialc Annie Sloan® Barcelona a’i selio gyda farnais clir i’w gwarchod Barcelona, sealed with matt varnish for durability
Agoslun Hen Gwpwrdd Ysgol
Hen gwpwrdd ysgol hyfryd gyda’r cwpwrdd uchaf ar goll. Felly creu wyneb newydd iddo gydag hen blanciau llawr wedi eu sgleinio
Trawsnewid Uned Ymolchi
Rhoddwyd gweddnewidiad i hen uned ymolchi Edwardaidd brown gyda Phaent Sialc Annie Sloan® Barcelona
Cist Ddroriau Ystafell Wely Plentyn
Mae siâp bendigedig ar y gist dderw hyfryd yma. Cafodd got o Baent Sialc Annie Sloan® a mymryn o Gwyr Euro Aur Llachar ar eu hymylon. Mae’r bwlynnau pen arth yn berffaith i lofft plentyn, ac mi drafaeliodd y gist yma i Provence mewn fan!
Cwpwrdd Du ac Aur ‘Art Deco’
Canolbwynt ffenestr nadolig 2020. Wedi baentio mewn #paentsialcanniesloan™️ #athenianblack gyda stencil deilen palmwydd mewn cŵyr euro aur llachar Gwerthwyd
Cwpwrdd Du ac Aur ‘Art Deco’
Stensil deilen palmwydd mewn cŵyr euro aur llachar #anniesloangildingwax
Cwpwrdd Du ac Aur ‘Art Deco’
Stensil deilen palmwydd mewn cŵyr euro aur llachar #anniesloangildingwax
Cwpwrdd Du ac Aur ‘Art Deco’
Canolbwynt ffenestr nadolig 2020. Wedi baentio mewn #paentsialcanniesloan™️ #athenianblack gyda stencil deilen palmwydd mewn cŵyr euro aur llachar Gwerthwyd