Disgrifiad
Clustog niwtral bendigedig gyda cynllun gwenyn drosto mewn lliw gwyrdd olewydden hyfryd. Wedi wneud o gotwm a ffibrau wedi hail gylchu
Clustog moethus fyddai’n siwtio unrhyw gynllun mewnol unai yn unigol neu gyda un arall mewn lliw gwahanol efallai. Mae nhw hefyd ar gael mewn lliw mwstard a glaswyrdd (teal) hollol odidog
Gwneir y clustogau mewn ffatri trydydd cenhedlaeth yn India lle mae’r gweithwyr yn derbyn cyflog byw teg, ac yn creu mewn awyrgylch a gweithle hollol ddigel.
Nid oes plant yn cael ei cyflogi- byth.
Defnyddir technegau traddodiadol a newydd sbon ochr yn ochr i greu defnyddiau gyda gweadedd unigryw sydd yn golchi yn wych. Gellir ei dynnu oddiar y pad a’i olchi mewn peiriant ar 30*
Daw y plu o adar meirw law yn llaw gyda’r diwydiant cig, sy’n lleihau gwastraff..