Disgrifiad
Lliain bwrdd mawr hollol fendigedig mewn lliw clasurol, syml, defnyddiol. Llwyd piwter hyfryd, cyfredol a fydd yn gweddu i unryw liw llestri…
. Be well i orchuddio bwrdd ar achlysur dathliad arbennig gyda’r teulu, neu beth am ei luchio dros fwrdd papuro ar ddiwrnod braf o Haf yn yr ardd neu’r awyr agored a’i addurno gyda phetalau rhosod wedi cwympo a defnyddio hen wydrau fintej a hen lestri blodeuog – am bicnig hudol!
Golchwch mewn peiriant ar 30* a sychwch yn naturiol, gorau oll ar y lein ddillad..
Gwnaed ym Mhortiwgal