Disgrifiad
Dyma eitem defnyddiol iawn. Nid yn unig mae’r hen fowld brics yma o India yn dda ar gyfer cadw pob math o bethau o boteli i offer celf, i dywelion, neu blanhigion, mewn ystafell ‘molchi neu gegin –
ond mae nhw hefyd yn edrych yn fendigedig wedi rhoi ar y wal fel silffoedd, yn unigol neu mewn clystyrau. Edrychiad modern diwydiannol gyda hen eitem ymarferol.
Pren Mango.
Mae pob un mowld yn wahanol. Gall lliw y pren wahaniaethu, neu y strapiau haearan, neu’r hoelion. Pob un yn hollol unigryw
Mowldiau sengl hefyd ar gael
Eitem trwm . Os ydych am brynu mwy nac un, efallai bydd angen i ni gysylltu a chi i ychwanegu postio neu i drefnu tywyswr
Mowld Dwbwl: Lled: 58cm Uchder: 9cm Dyfnder: 15cm