Disgrifiad
Rycsac mewn lledr meddal hyfryd, a gwell fyth mae’n lledr wedi’i ail ddefnyddio, ochr yn ochr a ffwr ffug print jiraff. Mae’r lliw glas hyfryd yn eistedd ochr yn ochr a gwyrdd olewydd metalig , brown tyywyll cyfoethog a chydig o goch. Mae y tu mewn wedi’i leinio mewn defnydd brown ac mae ganddo boced segur gyda zip hefyd ar y tu mewn a’r tu allan ar y cefn. Mae strap lliw byff naturiol, eto, lledr wedi’i ail-gylchu , y gellid ei fyrhau neu ei ymestyn fel bo’r angen i’w wisgo yn gyfforddus dros y sgwyddau. Hefyd mae handlen ledr hir fel y gellid ei ddefnyddio fel bag llaw neu ei wisgo dros un ysgwydd
Ffasiwn cynnaladwy. Defnyddiau wedi’i hail ddefnyddio