Disgrifiad
Sgarff mawr meddal a chyffyrddus mewn glas a smotiau mawr llwyd y gellid ei wisgo ddwyffordd. Mae’r ochr arall yn llwyd gyda smotiau mawr glas, handi i’w wisgo gyda gwahanol ddillad.
Mae’n ddigon mawr i fynd rownd y gwddw ddwywaith a chlymu neu dros yr ysgwyddau a’i glymu yn y tu blaen fel siol
60% acrylig 40% polyester ond yn teimlo’n llawer cyfoethocach ac esmwyth. Mae wyneb rhychiog i’r cynllun arbennig yma,
Mae cwmni Lua ethos egwyddorol- yn gweithio yn agos gyda’i ffatri yn Fietnam ac yn sicrhau gweithle diogel a chyflogau teilwng.
Hefyd ar gael mewn lliw llwyd a mwstard a patrwm serog..